GarethBUTLERBu farw Gareth o Penrhiw, Llanfyrnach, yn dawel yn ei gwsg Bore Ddydd Llun y 14eg o Ragfyr yng Nghartref Gofal Peniel, ger Caerfyrddin. Roedd Gareth yn fab i'r diweddar Wynford a Glenys Butler, Mara, Trelech, ac yn frawd i'r ddiweddar Marian. Wedi cael stroc, dioddefodd yn ddewr am yn agos i ddeng mlynedd yng Nghartref Gofal Peniel, lle cafodd garedigrwydd a gofal arbennig o dda gan y Staff i gyd. Bydd ei angladd yn Breifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth, Ddydd Mercher 30ain o Ragfyr, 2020. Ymholiadau pellach: Glanmor D Evans, Caerfyrddin. Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates